Yn y wers hon mae’r plant yn creu poster am Fasnach Deg mewn Sbaeneg.
Cysylltiadau â’r Cwricwlwm: CA2 ITM
Amcan dysgu: Creu poster.
Canlyniad Dysgu: Mae’r plant wedi creu poster am fêl Masnach Deg yn Sbaeneg.
Adnoddau sydd eu hangen: Taflen eiriau Commercio Justo, papur, deunyddiau celf.
I ddechrau: Ewch drwy’r geiriau/ymadroddion Sbaeneg gyda’r dosbarth, gyda phawb yn eu hailadrodd dair gwaith.
Prif Weithgaredd: Rhannwch y dosbarth yn ddau a chwarae gêm o Pictionary, lle mae dau gynrychiolydd yn tynnu lluniau sy’n dangos y gair neu ymadrodd Sbaeneg a’u timau’n gorfod dyfalu gan weiddi’r gair/ymadrodd yn Sbaeneg.
Cyfarfod Llawn: Mae’r disgyblion yn tynnu llun poster Masnach Deg Sbaeneg i hysbysebu mêl Apicoop.
D.S. Mêl – la miel