Yn y wers hon mae’r dosbarth yn ysgrifennu llythyrau i ddangos eu bod yn deall y gwahaniaethau y mae Masnach Deg yn ei wneud i fywydau plant.
Cysylltiadau â’r Cwricwlwm: CA2 Cymraeg, Celf a Dylunio, TGCh.
Amcan Dysgu: Ysgrifennu llythyr,
Canlyniad Dysgu: Mae plant wedi ysgrifennu llythyrau i gydnabod y gwahaniaethau a wnaed ym mywydau plant drwy Masnach Deg.
Adnoddau sydd eu hangen: Straeon cynhyrchwyr Apicoop.
I ddechrau: Dosbarthwch gopïau o stori cynhyrchydd Apicoop i barau o ddisgyblion. Mae’r disgyblion yn darllen y stori, gan nodi’r gwahanol gyfleoedd y mae Masnach Deg wedi eu rhoi i gynhyrchwyr a’u teuluoedd ac yn rhoi adborth i’r dosbarth.
e.e. Cyfleoedd hyfforddi, offer newydd, swyddi (cyffredinol), ehangu eu busnes llus, wedi helpu i roi dyfodol i blant (Juan a Marina); gwersi gyrru i’w mab (Guido a Sonia) ac ati
Prif Weithgaredd: Mewn parau mae disgyblion yn meddwl am syniadau ynghylch sut mae Masnach Deg wedi bod o fudd i blant y cynhyrchwyr.
e.e. Cyfleoedd gwaith sy’n golygu nad oes rhaid iddynt symud oddi cartref, bywydau mwy diogel oherwydd bod gan y rhieni incwm sicr, mynediad at hyfforddiant, y cyfle i barhau mewn addysg bellach oherwydd gall eu rhieni ei fforddio.
Mae’r dosbarth yn ysgrifennu llythyrau. Trafodwch nodweddion llythyr / sut ddylai edrych ac ati. Yna mae’r plant yn ysgrifennu llythyrau o safbwynt y plant gan egluro sut y maent wedi elwa o ganlyniad i Fasnach Deg. Efallai y bydd rhai grwpiau am fynd ymlaen i ddefnyddio sgiliau TGCh i greu hysbyseb ar gyfer Masnach Deg gan ddefnyddio straeon y plant.
Cyfarfod Llawn: Mewn parau mae’r disgyblion yn cymryd eu tro i gyfweld ei gilydd ar gyfer rhaglen radio / teledu am y gwahaniaeth y mae Masnach Deg wedi gwneud i fywydau plant cynhyrchwyr Apicoop.