Mae Siopa Teg yn falch i fod yn rhan o’r gwaith o addysgu masnachwyr teg mewn ysgolion lleol. Rydym yn angerddol dros sicrhau bod neges masnach deg yn cyrraedd y to ifanc ac rydym yn cynnig nifer o wasanaethau i athrawon a disgyblion er mwyn i hyn ddigwydd.
Mae nifer o grwpiau o ysgolion lleol yn manteisio ar ein gwasanaeth ‘gwerthu neu ddychwelyd’. Maent yn cymryd nwyddau i’w gwerthu mewn digwyddiadau neu wasanaethau ysgol ac i gyflwyno ystod eang o fwydydd a chrefftau masnach deg sydd ar gael i’w cyfoedion.
Rydym hefyd yn croesawu grwpiau bach gyda’u hathrawon ar daith o gwmpas y siop a’r ystafell cadw stoc. Yn ystod yr ymweliad â’r siop gellir ateb unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r siop ac am fasnach deg yn gyffredinol a gall disgyblion gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol er mwyn ehangu eu gwybodaeth am fasnach deg.
Mae gan Siopa Teg nifer o adnoddau ar gyfer ysgolion gan gynnwys DVDs, llyfrau a phosteri y gall ysgolion eu benthyg. Cliciwch yma i weld y rhestr.
Gallwn hefyd rhoi ysgolion mewn cysylltiad â phobl sy’n gallu rhoi cyflwyniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Rydym yn gweithio ar y cyd gyda Traidcraft er mwyn sicrhau bod ysgolion yn gallu cyrchu adnoddau masnach deg.
CHWARAEWCH Y GÊM SIOPA TEG
Mae’r Gêm Siopa Teg ar-lein yn addas ar gyfer plant o bob oedran ac oedolion. Datryswch y cliwiau lluniau i ddysgu mwy am rai o’n cynhyrchion
Atgynhyrchir yr adnoddau hyn drwy ganiatâd caredig Traidcraft. Ewch i www.traidcraftschools.co.uk am fwy o adnoddau a syniadau.
Cymraeg – Mêl a Llus
Cymraeg – Reis
Masnach Deg Cymraeg
Siocled, Bananas, Cotwm a Pheli Troed .
FP – KS2
Oxfam
Find your way through fair trade Simple introduction to FT for Primary schools.
Only available in English but most of it is picture based and could be used in English or Welsh.
KS2
Bwyd
Cymorth Cristognol
CA2 Gwasanaethau a digwithiadau
Dathlwch y cynhaeaf gyda ni! – a
CA3
Oxfam
Only in English but includes pictures and activities.
Cymorth Cristognol
Dathlwch y cynhaeaf gyda ni! –
Peldroed –
Melys a Chwerw
Trading Games – instruction in English only but games could be carried out in any language.
The Chocolate Trade Game – age 9+ / Youth group (11-18) – Simulation games
The Trading Game – age 13+ / Youth group (11-18) – Simulation games