Yn y wers hon mae’r dosbarth yn chwarae gêm fwrdd yn seiliedig ar fywyd y ffermwr mêl.
Cysylltiadau â’r Cwricwlwm: CA2 Daearyddiaeth, Cymraeg
Amcan Dysgu: Er mwyn cymryd tro wrth chwarae gêm.
Canlyniad Dysgu: Mae plant wedi ystyried yr heriau a wynebir gan ffermwyr gwenyn yn Chile.
Adnoddau sydd eu hngen: 1 copi o’r bwrdd ar gyfer pob grŵp, darnau chwarae, darnau arian i’w defnyddio fel dis Proffil grŵp o gynhyrchwyr Apicoop, Proffil gwlad Chile.
I ddechrau: G ddefnyddio proffil grŵp cynhyrchwyr Apicoop, dywedwch wrth y dosbarth am Apicoop, cwmni cydweithredol sy’n cadw gwenyn yn Chile ac yn darparu mêl Masnach Deg a llus wedi’u sychu i Traidcraft. Trafodwch pa heriau y gallai fod i ffermwyr ac unrhyw atebion posibl y gall y dosbarth feddwl amdanynt.
Prif Weithgaredd: Mae’r dosbarth yn chwarae gêm fwrdd Melys neu Sur mewn grwpiau. Gallai rhai grwpiau hefyd fynd ymlaen i ysgrifennu adroddiad i bapur newydd am yr heriau sy’n wynebu ffermwyr mêl yn Chile. Efallai y bydd rhai grwpiau hefyd eisiau defnyddio’r templed gêm fwrdd gwag a’i addurno.
Cyfarfod Llawn: Beth wnaeth y plant ddysgu drwy chwarae’r gêm? A oes unrhyw beth am fywydau ffermwyr gwenyn yn eu synnu?